31 Mawrth 2017

Annwyl Gyfaill

Ymchwiliad i Iechyd Meddwl Amenedigol

Mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ymchwiliad i iechyd meddwl amenedigol. Diben yr ymchwiliad hwn yw i gael darlun o’r ddarpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol ar hyn o bryd ar draws Cymru, mewn lleoliadau cleifion mewnol a lleoliadau cymunedol. Bydd y Pwyllgor yn casglu tystiolaeth ysgrifenedig a thystiolaeth lafar, a hefyd yn cynnal digwyddiad i randdeiliaid i glywed am brofiadau menywod eu hunain (a’u teuluoedd) a’u taith wrth dderbyn gofal.

Mae'r Pwyllgor yn awyddus i glywed sut y mae gwasanaethau'n cysylltu â'i gilydd o dan yr ymbarél iechyd meddwl amenedigol, gan gynnwys gwasanaethau arbenigol iechyd meddwl amenedigol, gwasanaethau mamolaeth, gwasanaethau iechyd meddwl cyffredinol i oedolion, unedau mamau a babanod i gleifion mewnol, gwasanaethau iechyd meddwl rhieni a babanod, ymweliadau iechyd, seicoleg glinigol, a gwasanaethau bydwreigiaeth, meddygon teulu a'r tîm gofal sylfaenol estynedig, rôl y trydydd sector a grwpiau cymorth lleol, a darparwyr gwasanaethau preifat.

Mae'n ceisio tystiolaeth yn benodol ar y canlynol:

- Sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymdrin ag iechyd meddwl amenedigol, gan ganolbwyntio'n benodol ar atebolrwydd ac ariannu gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol. Mae hyn yn cynnwys atal, canfod a rheoli problemau iechyd meddwl amenedigol, ac a yw adnoddau'n cael eu defnyddio mor effeithiol â phosibl.

- Patrwm y gofal cleifion mewnol i famau sydd â salwch meddwl difrifol sy’n gofyn am eu derbyn i ysbyty ar draws unedau arbenigol mamau a babanod (unedau mamau a babanod dynodedig yn Lloegr) a lleoliadau cleifion mewnol eraill yng Nghymru. (Ers 2013, nid fu uned mamau a babanod arbenigol yng Nghymru)

- Lefel y ddarpariaeth iechyd meddwl amenedigol gymunedol arbenigol sy'n bodoli ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru ac a yw gwasanaethau'n cyrraedd safonau cenedlaethol. 

- Y llwybr gofal clinigol presennol ac a yw gwasanaethau gofal sylfaenol cyfredol yn ymateb mewn ffordd amserol er mwyn diwallu anghenion emosiynol, llesiant ac iechyd meddwl mamau, tadau a'r teulu ehangach yn ystod beichiogrwydd a'r flwyddyn gyntaf ym mywyd babi.

- Ystyried pa mor dda y caiff gofal iechyd meddwl amenedigol ei integreiddio ym meysydd addysg cyn-geni a chyngor cyn-beichiogi, hyfforddiant i weithwyr iechyd proffesiynol, mynediad teg ac amserol at gymorth seicolegol ar gyfer iselder ysgafn i gymedrol ac anhwylderau gorbryder, a mynediad at gymorth trydydd sector a chymorth profedigaeth.

- A yw gwasanaethau yn adlewyrchu pwysigrwydd cefnogi mamau i feithrin bond a datblygu cysylltiad iach gyda'i babi yn ystod beichiogrwydd ac ar ôl hynny, gan gynnwys cymorth bwydo ar y fron.

- I ba raddau y gellir mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd wrth ddatblygu gwasanaethau yn y dyfodol.

Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad

Hoffai'r Pwyllgor eich gwahodd i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i gynorthwyo gyda'r ymchwiliad.  Mae'r Atodiad yn cynnwys gwybodaeth gyffredinol am weithdrefnau'r ymgynghoriad, a dylid ystyried y rhain yn ofalus cyn cyflwyno tystiolaeth i'r Pwyllgor.

Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg ac yn Saesneg, a gofynnir i sefydliadau sydd â pholisïau neu gynlluniau iaith Gymraeg ddarparu ymatebion dwyieithog, yn unol â’u polisïau gwybodaeth gyhoeddus. Dylid cyflwyno ymatebion erbyn dydd Gwener 28 Ebrill 2017. Efallai na fydd yn bosibl ystyried ymatebion a geir ar ôl y dyddiad hwn 

Os bydd gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Jon Antoniazzi, Clerc y Pwyllgor, ar 0300 200 6565.

Yn gywir,

Lynne Neagle AC
Cadeirydd

 

Atodiad

Cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i’r Pwyllgor

Datgelu gwybodaeth

1.  Mae polisi'r Cynulliad ynghylch datgelu gwybodaeth ar gael yma; gofalwch eich bod yn ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor.  Fel arall, mae croeso ichi gysylltu â'r Clerc i ofyn am gopi caled o'r polisi hwn.

Cyflwyno tystiolaeth

2.  Os ydych am gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig ohoni i: SeneddCYPE@cynulliad.cymru

Fel arall, gallwch ei hanfon at:

Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
CF99 1NA
.

3.  Dylai unrhyw dystiolaeth gyrraedd erbyn 28 Ebrill 2017.  Efallai na fydd yn bosibl ystyried ymatebion a geir ar ôl y dyddiad hwn

4.  Wrth baratoi eich sylwadau, cadwch y canlynol mewn cof:

Canllawiau ar gyfer tystion sy'n darparu tystiolaeth ysgrifenedig i bwyllgorau

5.  Mae’r Cynulliad wedi ymrwymo i ddarparu gwybodaeth hygyrch i’r gynulleidfa ehangaf bosibl.  Diben y canllaw byr hwn yw cynorthwyo tystion sy’n cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i bwyllgorau.  Bydd hyn yn galluogi’r Cynulliad i ddarparu gwybodaeth a gyflwynwyd gan eraill mewn modd hygyrch.

·                     Defnyddiwch Gymraeg a Saesneg clir gan osgoi jargon diangen.

·                     Defnyddiwch ffont sydd o leiaf maint 12.

·                     Defnyddiwch ffont glir sans-seriff, fel Lucida Sans. 

·                     Peidiwch ag ysgrifennu dros luniau, graffeg neu ddyfrnodau.

·                     Lliwiau a chyferbyniad - dylai’r ysgrifen gyferbynnu gymaint â phosibl â’r cefndir: ysgrifen dywyll ar gefndir golau, ac ysgrifen olau ar gefndir tywyll.

·                     Peidiwch â defnyddio priflythrennau bloc, a cheisiwch osgoi defnyddio print trwm, print italig a thanlinellu.

·                      Os ydych yn cyfeirio at ddogfen sydd wedi’i chyhoeddi, rhowch hyperlinc at y ddogfen honno, yn hytrach na’r ddogfen ei hun.

6.  Lle bo modd, dylid darparu gwybodaeth gan ddefnyddio Microsoft Word er mwyn sicrhau hygyrchedd.  Pan fyddwch yn cyflwyno sgan neu ddogfen PDF, yn enwedig llythyrau wedi’u llofnodi neu dablau o wybodaeth, dylech gyflwyno’r ddogfen Word wreiddiol hefyd.

Cyffredinol

7.  Mae’r Pwyllgor yn croesawu tystiolaeth gan y rhai sydd â buddiant yn y pwnc hwn.  Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, dylech roi disgrifiad byr o rôl eich sefydliad.  Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg ac yn Saesneg, a gofynnir i sefydliadau sydd â pholisïau neu gynlluniau iaith Gymraeg ddarparu ymatebion dwyieithog, yn unol â’u polisïau gwybodaeth gyhoeddus.

8.  Bydd y Pwyllgor yn ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad ysgrifenedig ac yn cynnal sesiynau tystiolaeth lafar.

9.  Er gwybodaeth, mae'r Pwyllgor wedi gwahodd amrywiaeth eang o sefydliadau i roi sylwadau; mae rhestr o'r rhain ar gael ar gais.  Mae copi o’r llythyr hwn hefyd wedi’i roi ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol ynghyd â gwahoddiad agored i gyflwyno sylwadau.  Fodd bynnag, byddai’r Pwyllgor yn ddiolchgar pe gallech anfon copi o’r llythyr ymgynghori a’r Atodiad at unrhyw unigolyn neu sefydliad y credwch yr hoffai gyfrannu at yr ymchwiliad.